kowydd yr wylan
1 yr wylan deg ar lanw dioer
2 vn lliw ar ewyn ner lloer
3 di lwch yw dy degwch di
4 darn fel havl dyrnfol heli
5 ysgon ar don eigion wyd
6 y esgvdfalch edn bysgodfwyd
7 yngo yrawn wrth yr angor
8 lowlaw a mi lili mor
9 llythyr vnwaith llathr i anwyd
31 pell i siwrnai r llatai llwyd
10 lleian ymrig llanw mor wyd
11 kowirglod bvn kair glod bell
12 kyrch ystym kaer a chastell
13 edrych a welych wylan
14 eigr liw ar y gaer lan
15 dowaid fyngeiriav dyfvn
16 dewised fi dos at fvn
17 byddai hvn beiddia i hanerch
18 bydd fedrvs wrth foythvs ferch
19 a bydd dowaid na byddaf
20 feinwas koeth fyw onis kaf
21 i charv rwyf gwbl nwyf nawdd
22 och wyr erioed ni charawdd
23 na merddin chwenychwin iach
24 na thal iesin i thlysach
25 ssiprys dyn giprys dan gopr
26 rhagorbryd rhy gowirbropr
27 [364] och wylan o chai weled
28 grvdd y ddyn lana o gred
29 oni chaf fwynaf anerch
30 fy nihenydd fydd y ferch
dafydd ap gwilym